(fersiwn eLyfr / eBook version)
Nofel yw hon am gyhoeddwr o Lundain sy'n symud i Gymru i brofi dyfnder ei wreiddiau.
Mewn tref brifysgol ar lan y môr mae'n ceisio cyngor ystod o gymeriadau: yr ysgolhaig sydd wedi ymroi i'w waith ar draul agweddau eraill ar ei fywyd; y wraig sydd wedi aberthu llawer yn ei thro wrth ddod yn gymar iddo; yr athro sydd bellach yn ddeallusyn cyhoeddus; yr actores y mae yntau'n briod iddo; a'r arlunydd mae ei gwaith i'w weld yn nhai'r dref.
Ond beth yw union natur y berthynas rhwng y bobl hyn?
Dyma nofel heriol, arloesol wedi'i gweu o'r presennol, y gorffennol a'r dyfodol, ac o freuddwydion a barddoniaeth.
'Dyma waith sylweddol iawn. Mae'n tynnu'r darllenydd yn ei flaen oherwydd yr annisgwyl ddieithr yn y rhediad
tra amrywiol.'
- Bobi Jones